Musa Kusa
Mae cyn Weinidog Tramor Libya, Musa Kusa, wedi dweud ei fod yn ofni mai ei wlad ef fydd y “Somalia newydd”.

Dyma’r tro cyntaf iddo siarad yn gyhoeddus ers ffoi o’r wlad i Ynysoedd Prydain ddiwedd mis Mawrth.

Mewn datganiad wedi ei baratoi o flaen llaw ar gyfer y BBC, dywedodd fod angen i “bawb weithio ar y cyd er mwyn osgoi llusgo Libya i mewn i ryfel cartref arall”.

“Fe fyddai yna lawer iawn o dywallt gwaed, a Libya fyddai yn Somalia newydd.

“Yn fwy na hynny, dydw i ddim am weld Libya yn cael ei rannu. Beth bynnag yw’r ateb sy’n dod a’r brwydro i ben fe fydd hi’n bwysig fod Libya yn parhau’n unedig.

“Daw’r ateb gan bobol Libya eu hunain, drwy drafodaeth a deialog ddemocratiaid.”

Gadawodd Musa Kusa Libya ar 30 Mawrth, ond mynnodd heddiw ei fod yn “ymroddedig” i’w waith yno a’i fod wedi gweithio er lles pobol Libya.

“Rydw i’n gwybod y bydd ymddiswyddo yn creu problemau i fi, ond rydw i’n barod i wneud yr aberth hwnnw er lles fy ngwlad,” meddai.

“Mae gan bobol y Deyrnas Unedig gysylltiad hanesyddol â phobol Libya ac rydyn ni’n eu hystyried nhw yn ffrindiau.”

Daw ei sylwadau wrth i wrthryfelwyr Libya wfftio cynnig gan Undeb Affrica i roi’r gorau i’r brwydro, am nad oedd yr undeb yn mynnu fod arweinydd Libya, Muammar Gaddafi yn camu o’r neilltu.