Laurent Gbago
Mae cyn-arlywydd y Traeth Ifori, Laurent Gbagbo, wedi ei ddal gan ei wrthwynebwyr heddiw ar ôl misoedd o geisio dal gafael ar rym.

Cafodd ei roi yn nwylo yn arlywydd Alassane Ouattara, a gurodd Laurent Gbagbo mewn etholiad ym mis Tachwedd.

Cipwyd Laurent Gbagbo ar ôl i filwyr o Ffrainc gymryd rhan mewn ymosodiad ar ganol dinas Abidjan yn gynharach.

Ymunodd milwyr Alassane Ouattara â’r frwydr, gan ymosod ar gartref Laurent Gbagbo.

Ffodd milwyr Laurent Gbagbo wrth i o leiaf 10 cerbyd arfog Ffrengig gyrraedd ei gartref.

Dywedodd y Prif Weinidog Guillaume Soro fod Gbago wedi rhoi’r ffidil yn y to pan lwyddodd milwyr Alassane Ouattara i dorri i mewn i’w gartref.

Roedd milwyr y Traeth Ifori wedi arestio Laurent Gbagbo tra bod milwyr Ffrainc yn gwarchod y perimedr.

Dywedodd llysgennad Alassane Ouattara yn Ffrainc, Ali Coulibaly, na fyddwn nhw’n cam-drin Gbago.

“Y peth olaf ddylen ni ei wneud yw gwneud merthyr o Laurent Gbagbo,” meddai Ali Coulibaly.

“Rhaid iddo fod yn fyw ac wynebu achos llys am droseddau yn erbyn hawliau dynol.”