Barcelona
Mae trigolion Barcelona wedi cefnogi annibyniaeth o Sbaen mewn refferendwm anffurfiol wedi ei drefnu gan ymgyrchwyr.
Roedd dros 91% yn cefnogi annibyniaeth lawn i Gatalonia, er mai dim ond 21.4% o drigolion ail ddinas fwyaf Sbaen benderfynodd bleidleisio.
Mae ymgyrchwyr eisoes wedi cynnal refferenda anffurfiol o’r fath mewn trefi a phentrefi eraill ledled Catalonia.
“Roedd cynnydd yn nifer y bobol a bleidleisiodd, a doedden ni ddim yn disgwyl y canlyniad,” meddai Elisenda Paluzie ar ran yr ymgyrchwyr.
Dywedodd Maria Garcia, 79 oed, ei bod hi wedi pleidleisio ‘ie’ i annibyniaeth er mwyn caniatáu i bobol Catalonia reolai eu harian eu hunain.
“Mae llywodraeth Sbaen yn cymryd mwy nag y maen nhw yn ei roi yn ôl,” meddai.
Mae pobol Catalonia yn cymryd balchder yn eu diwylliant a’u hiaith unigryw, ac mae’r cymunedau ymreolaethol ymysg y cyfoethocaf yn Sbaen.
Mae Catalonia wedi ennill mwy o hunan reolaeth ers marwolaeth Francisco Franco, oedd yn benderfynol o uno Sbaen a gwahardd siarad Catalaneg.
Ond penderfynodd Llys Cyfansoddiadol Sbaen ym mis Gorffennaf 2010 nad oedd gan Gatalonia’r hawl gyfreithiol i alw ei hun yn wlad ar wahân.