Belfast
Mae heddlu Gogledd Iwerddon wedi atal terfysgwyr gweriniaethol rhag achosi cyflafan arall tebyg i fomio Omagh, meddai gwleidyddion y wlad heddiw.

Mae ditectifs yn credu mai nod y terfysgwyr oedd ffrwydro’r bom a ddaethpwyd o hyd iddo mewn tanffordd ger y ffin â Gweriniaeth Iwerddon ynghanol tref brysur.

Cafodd 29 o bobol eu lladd a 220 eu hanafu pan ffrwydrodd bom ynghanol Omagh, Swydd Tyrone, ym mis Awst 1998.

Cafodd y fan Ford transit, gafodd ei ddwyn o Maynooth ger Dulyn ym mis Ionawr, ei adael yn Newry. Roedd yn cynnwys bin olwynion â 500 pwys o ffrwydron cartref ynddo.

Mae gwleidyddion wedi beio’r cynllun ar weriniaethwyr sy’n gwrthwynebu’r cynllun heddwch.

Ddydd Sadwrn diwethaf cafodd un o heddweision Catholig Gogledd Iwerddon, Ronan Kerr, ei ladd gan fom yn Omagh.

“Rydyn ni’n lwcus nad oes cyflafan arall wedi bod heddiw,” meddai llefarydd ar ran Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd.

“Yr wythnos diwethaf roedd nifer o blant a theuluoedd wedi rhedeg heibio i ddyfais laddodd heddwas ifanc, a heddiw fe allen ni fod wedi colli sawl bywyd arall.”