Rio de Janeiro
Mae 12 o bobol wedi eu lladd ar ôl i saethwr ymosod ar ysgol uwchradd yn Rio de Janeiro.

Roedd y saethwr yn gyn-ddisgybl 23 oed yn yr ysgol i blant 10 i 15 oed. Roedd ef ymysg y meirw ond dyw hi ddim yn amlwg eto a oedd wedi ei ladd ei hun neu wedi eu saethu gan yr heddlu. Dechreuodd yr ymosodiad tua 8.30am.

Cafodd 18 o bobol eu hanafu yn ystod y saethu. Roedd delweddau ar y teledu yn dangos dros 100 o bobol wedi ymgasglu y tu allan i’r ysgol, gan gynnwys rhai rheini oedd yn chwilio am eu plant.

Gwelwyd tri hofrennydd yn glanio ar gae pêl-droed ger yr ysgol er mwyn mynd a phobol oedd wedi eu hanafu i’r ysbyty.

Dywedodd pennaeth yr heddlu lleol, Djalma Beltrame, bod y saethwr wedi gadael nodyn yn yr ysgol yn dweud ei fod eisiau ei ladd ei hun ond doedd dim esboniad ynglŷn â pham ei fod eisiau saethu disgyblion eraill.

Dywedodd llygaid dystion bod yr heddlu wedi ymateb yn gyflym ac wedi saethu at y dyn oedd yn ymosod ar yr ysgol.