Mae Sbaen wedi mynnu heddiw na fydd y wlad yn gwneud cais am arian y Comisiwn Ewropeaidd.
Cyhoeddodd Prif Weinidog Portiwgal ddoe wedi cyhoeddi y bydd ei wlad yn gofyn i weddill yr Undeb Ewropeaidd am fenthyciad.
Fe allai Prydain orfod cyfrannu hyd at £4.4 biliwn tuag at gost £80 biliwn i dalu costau benthyciadau’r wlad.
Portiwgal yw’r drydedd wlad yn Ewrop, ar ôl y Wlad Groeg a Gweriniaeth Iwerddon, i orfod gofyn i’r Comisiwn Ewropeaidd a Chronfa Ariannol Ryngwladol am gymorth.
Ond dywedodd y Gweinidog Cyllidol, Elena Salgado, eu bod nhw wedi “diystyru yn llwyr” y posibilrwydd o wneud cais am arian.
Dywedodd fod buddsoddwyr wedi dod i’r casgliad fod economi Sbaen “yn fwy amrywiol, yn fwy pwerus, yn ragor cystadleuol, ac â seiliau cadarnach”.
Ond roedd Portiwgal hefyd wedi mynnu nad oedd angen unrhyw gymorth arnyn nhw nes y cyhoeddiad tyngedfennol yn hwyr neithiwr.
Dywedodd Prif Weinidog Portiwgal, Jose Socrates, ddoe mai dim ond “gwaethygu ffydd pethau os nad ydym ni’n gweithredu nawr”.
Ychwanegodd mai gofyn i’r Comisiwn Ewropeaidd am gymorth ariannol oedd y “dewis olaf”.
Mae disgwyl i filoedd o bobol ifanc Sbaen wrthdystio heno yn erbyn diweithdra uchel a pholisïau economaidd llym y llywodraeth.
Dywedodd arweinydd UKIP, Nigel Farage, y dylai Prydain wrthod cyfrannu unrhyw arian er mwyn achub Portiwgal.
“Mae’r problemau â’r Ewrop wedi dod yn amlwg i bawb,” meddai.
“Fe fyddai rhoi arian i Bortiwgal yn hollol ddibwynt. Ni ddylai Prydain gyfrannu ceiniog.”