Abdelbaset al Megrahi - bomiwr Lockerbie
Mae erlynwyr yn yr Alban wedi dweud wrth y Swyddfa Dramor eu bod eisiau cyfweld â Gweinidog Tramor Libya ynglŷn â thrychineb Lockerbie.
“R’y ni wedi hysbysu’r Swyddfa Dramor bod awdurdodau ymchwilio ac erlyn yn awyddus i gyfweld a Moussa Koussa,” meddai llefarydd ar ran Swyddfa’r Goron yng Nghaeredin.
“Mae ymchwiliadau i fomio Lockerbie yn parhau ac fe fyddwn ni’n parhau i holi.”
Fe ddihangodd Moussa Koussa i wledydd Prydain dros nos gan ddweud ei fod yn troi cefn ar Lywodraeth y Cyrnol Gaddafi.
Y cefndir
Fe gafodd Moussa Koussa ei benodi’n Weinidog Tramor Libya ym mis Mawrth 2009 ac roedd yn bennaeth ar asiantaeth cudd-wybodaeth Libya rhwng 1994 a 2009.
Fe dderbyniodd glod am berswadio Muammar Gaddafi i ddod i ddealltwriaeth gyda’r gorllewin a rhoi’r gorau i ddatblygu arfau a chyllido terfysgaeth.
Ond mae hefyd yn cael ei ystyried yn ffigwr allweddol yn y gwaith sicrhau bod bomiwr Lockerbie yn cael mynd yn ôl i Libya.