Muammar Gaddafi
Mae gwrthryfelwyr Libya wedi ailgipio porthladd olew allweddol ac yn gwthio tua’r gorllewin tuag at y brifddinas Tripoli.

Eu nod yw manteisio ar y momentwm wrth i’r ymosodiadau rhyngwladol o’r awyr droi’r fantol yn erbyn lluoedd Muammar Gaddafi.

Fe wnaeth Brega, porthladd olew pwysig yn nwyrain Libya, syrthio wedi brwydr yn hwyr neithiwr, ac fe symudodd lluoedd y gwrthryfelwyr yn gyflym tua’r gorllewin gan gipio tref fach Al-Egila ar eu ffordd i burfa olew Ras Lanouf.

“Doedd dim gwrthsafiad. Fe wnaeth lluoedd Gaddafi doddi i ffwrdd,” meddai Suleiman Ibrahim, gwirfoddolwr 31 oed i’r gwrthryfelwyr. “Allai hyn ddim bod wedi digwydd heb Nato. Fe wnaethon roi cymorth mawr inni.”

Byddai rheolaeth o Ras Lanouf a Brega’n golygu grym dros gyfran helaeth o allforion olew Libya.

Roedd Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig wedi awdurdodi’r gweithredu milwrol i amddiffyn pobl gyffredin ar ôl i Gaddafi ymosod yn filwrol ar brotestwyr sy’n pwyso arno i ymddiswyddo. Mae’r ymosodiadau o’r awyr wedi gwanhau gallu milwrol Gaddafi, ond mae’r gwrthryfelwyr wedi wynebu trafferthion hefyd, gyda’r ddwy ochr benben â’i gilydd mewn dinasoedd allweddol.

Dywedodd arlywydd America, Barack Obama, fod y lluoedd unedig yn llwyddo yn eu nod.

“Gan inni weithredu’n gyflym, mae trychineb wedi cael ei osgoi a bywydau llu o bobl gyffredn – dynion, merched a phlant diniwed – wedi cael eu hachub,”  meddai.

Mae corff llywodraethol Nato yn cyfarfod heddiw i drafod ehangu’r gwaharddiad hedfan i gynnwys ymosodiadau o’r awyr ar dargedau ar y ddaear.