Mont Velan, uwchben y ffin rhwng y Siwstir a'r Eidal (o wefan Wikipedia)
Mae o leiaf dri o bobl wedi cael eu lladd a chwech wedi cael eu hanafu mewn llithrad eira yn ne’r Swistir.

O blith 11 o bobl a gafodd eu hysgubo ymaith yn y llithrad eira, llwyddodd un i ryddhau ei hun a galw am help. Llwyddodd achubwyr i achub chwech o bobl yn fyw – ond mae un yn dal ar goll.

Does dim gwybodaeth ar gael ar hyn y bryd am gyflwr y rhai sydd wedi cael eu hachub.

Fe ddigwyddodd y ddamwain ar Mont Velan, mynydd 12,200 o droedfeddi sydd ar y ffin rhwng y Swistir a’r Eidal.

Roedd Canolfan Eirlithradau’r Swistir wedi rhybuddio am “risg sylweddol” o lithradau eira yn yr ardal heddiw.

Mae dwsinau o gerddwyr, sgïwyr a mynyddwyr yn cael eu lladd gan eirlithradau yn yr ardal yma bob blwyddyn, yn enwedig yn y gwanwyn, pan fo’r eira’n dechrau meirioli.