Dechrau'r trafferthion yn Fukushima Dai-ichi
Mae swyddogion diogelwch niwclear Japan yn dweud eu bod nhw’n credu y gallai darn o graidd yr adweithydd yng ngorsaf Fukushima Dai-ichi fod wedi ei ddifrodi.

Pe bai hyn yn wir, fe allai hyn achosi gollwng rhagor o lygredd ymbelydrol difrifol i’r amgylchedd.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran yr asiantaeth ddiogelwch niwclear “y gallai rhywbeth yn yr adweithydd fod wedi ei ddifrodi” yn un o’r chwech adweithydd.

Fe allai’r difrod fod wedi cael ei achosi ar 14 Mawrth ar ôl i ffrwydrad hydrogen chwalu’r adeilad allanol sy’n gwarchod yr adweithydd. Roedd hynny yn sgil y daeargryn a’r tswnami a drawodd ogledd-ddwyrain Japan gan ladd tua 18,000 o bobol.

Mae gweithwyr yn yr orsaf wedi bod yn brwydro i oeri’r ffyn ymbelydrol yng nghraidd yr adweithyddion ar ôl gyflenwad pŵer yr orsaf gael ei dorri gan atal y system oeri.

Mae gan yr adweithydd dan sylw 170 tunnell o danwydd ymbelydrol yn ei graidd, ac fe allai difrod i hwnnw olygu llygredd ymbelydrol mawr heb i’r awdurdodau allu ei reoli.