Elizabeth Taylor yn 1981 (Alan Light CCA 2.0)
Dim ond aelodau o’r teulu oedd mewn mynwent yn Los Angeles yn talu’r deyrnged ola’ i’r actores Elizabeth Taylor.

Ac fe ddechreuodd y gwasanaeth chwarter awr yn hwyr – roedd hi wedi mynnu hynny ymlaen llaw.

Roedd rhes o geir duon yn cludo’r teulu i’r fynwent ond doedd dim gorymdaith a’r unig ffilmio’n digwydd o bell.

Fe gafodd ei gosod mewn mynwent lle mae llawer o sêr y byd ffilmiau wedi eu claddu, gan gynnwys ei ffrind agos,  y canwr Michael Jackson.

Fe ddigwyddodd yr angladd o fewn deuddydd i’w marwolaeth yn unol â chredoau Iddewiaeth.

Roedd hi wedi troi at y grefydd Iddewig ar ôl ei phriodas gyda’r actor Eddie Fisher yn 1959. Dyna un o wyth priodas yr actores – roedd dwy arall gyda’r actor o Gymro Richard Burton.

Mae gan un o’i meibion o briodas arall, Michael Wilding, gysylltiadau â Chymru ac mae rhai o’r teulu’n byw yn y Canolbarth.