Protestio yn Yemen
Mae Swyddfa Dramor Prydain wedi cyhoeddi y bydd swyddogion eu llysgenhadaeth yn Yemen yn gadael y wlad.
Mae’r Swyddfa Dramor hefyd yn annog trigolion Prydeinig i adael y wlad.
Daw’r penderfyniad ar ôl i rai o bobol y wlad brotestio yn erbyn teyrnasiad yr Arlywydd Ali Abdullah.
Ddoe cymeradwyodd Senedd Yemen gyfreithiau brys a fydd yn caniatáu i luoedd yr Arlywydd arestio’r ymgyrchwyr a sensro’r protestiadau.
“Yn dilyn y dirywiad yn Yemen a’r tensiwn yn Sana’a, yn ogystal â’r protestiadau ddydd Gwener, fe fydd tîm y llysgenhadaeth Brydeinig yn gadael Sana’a,” meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor.
Mae Llywodraeth Prydain wedi galw ar y ddwy ochor i gydweithio er mwyn dod a’r gwrthdaro i ben.