William Hague - pwysig cydweithio
Fe fydd cynhadledd ryngwladol yn cael ei chynnal i drafod datblygiadau yn Libya ac i benderfynu sut i reoli cyrchoedd milwrol y lluoedd rhyngwladol.

Fe fydd yna bwyslais arbennig ar ddenu gwledydd o’r byd Arabaidd ac fe fydd trafodaeth ar y sefyllfa ddyngarol ac anghenion pobol Libya hefyd.

Fe fyd dy gynhadledd yn cael ei chynnal yn Llundain ddydd Mawrth ar ôl anghytundeb ymhlith aelodau cynghrair milwrol Nato tros y ffordd orau i reoli’r cyrchoedd.

Mae’r Unol Daleithiau wedi gwneud yn glir nad ydyn nhw eisiau parhau i arwain ond dyw pawb ddim eisiau i Nato gymryd yr awenau ar ei phen ei hun.

“Mae’n hanfodol bod y gymuned ryngwladol yn parhau i weithredu’n unol a chydlynus i ymateb i’r argyfwng fel y mae’n datblygu,” meddai’r Ysgrifennydd Tramor, William Hague.