Y Cyrnol Gaddafi ynghynt yn yr argyfwng
Mae pennaeth Libya, Muammar Gaddafi, wedi addo buddugoliaeth yn erbyn y cynghreiriaid rhyngwladol.
Roedd yn siarad ar sianel deledu’r wladwriaeth gan ddweud bod yr ymosodiadau gan ‘ffasgwyr’ yn torri rheolau’r Cenhedloedd Unedig.
Ychydig oriau wedyn, roedd yna adroddiadau am sŵn ffrwydro a saethu yn y brifddinas, Tripoli, wrth i’r lluoedd rhyngwladol barhau i ymosod gydag awyrennau a thaflegrau.
O fewn Libya, mae’r ymladd yn parhau yn ninas Misrata ac, yn ôl gwasanaeth newyddion CNN yn yr Unol Daleithiau, mae arweinwyr y gwrthryfelwyr wedi bod yn gofyn i wledydd tramor am nwyddau.
Mae negeseuon o’r ddinas yn dweud bod trydan a dŵr wedi’u hatal a bod y bobol yn “byw mewn ofn”.
Dryswch
Mae rhywfaint o ddryswch ymhlith y gynghrair ryngwladol wrth i’r Unol Daleithiau ddweud ei bod eisiau ildio’r awenau.
Mae llysgenhadon Nato wedi methu a dod i gytundeb hyd yn hyn ynglŷn â phwy ddylai arwain y gwaith o greu ardal dim-hedfan.
Mae Ffrainc wedi rhybuddio y byddai trosglwyddo’r rheolaeth i Nato yn mynd i ynysu’r gwledydd Arabaidd gyda’r risg o danseilio undeb rhyngwladol.
Mae Twrci, yr unig aelod o’r gynghrair sy’n wlad Foslemaidd yn bennaf, hefyd wedi mynegi pryderon bod yr ymosodiadau yn mynd ymhellach na gorchymyn y Cenhedloedd Unedig.
Rhyddhau newyddiadurwyr
Mae newyddiadurwr Prydeinig a gafodd ei arestio gan luoedd y Cyrnol Gaddafi yr wythnos diwethaf wedi cael ei ryddhau ynghyd a dau ddyn arall.
Fe gafodd Dave Clark, y newyddiadurwr Roberto Schmidt a’r ffotograffydd Joe Readle, eu dal gan filwyr Libya yn agos i ddinas Ajdabiya yn nwyrain y wlad ddydd Sadwrn.
Roedd Dave Clark yn gweithio i asiantaeth newyddion AFP a doedd ei olygyddion ddim wedi clywed dim ganddo ers nos Wener.
Mae AFP wedi cadarnhau bod y tri wedi cael ei rhyddhau yn Tripoli.