Canol Tokyo (Krinkle CCA 3.0)
Mae’n ymddangos bod gweithwyr brys wedi cael  eu symud unwaith eto o atomfa Fukushima Dai-ichi yn Japan.

Fe ddaeth adroddiadau bod mwg wedi’i weld yn codi o adweithydd rhif tri yn yr orsaf niwclear a gafodd ei tharo gan y daeargryn a’r tswnami ar 18 Mawrth.

Mae gweithwyr wedi bod yn gweithio’n galed i geisio oeri’r adweithyddion ac roedd arwyddion gobeithiol wedi iddyn nhw lwyddo i gael cyflenwad trydan i’r atomfa.

Pryder am ymbelydredd mewn dŵr

Yn y cyfamser, mae’r awdurdodau yn Tokyo yn dweud bod lefelau iodin mewn dŵr ym mhrifddinas Japan ddwywaith yn uwch na’r lefel sy’n cael ei argymell ar gyfer plant bach.

Mae hynny’n cael ei ystyried yna arwydd o’r problemau sy’n cael eu hachosi gan yr ymbelydredd o’r atomfa yng ngogledd-ddwyrain y wlad.

Mae Swyddfa Ddŵr Tokyo wedi argymell na ddylai babanod cael unrhyw ddŵr o’r tap – er eu bod yn dweud nad yw’r lefelau’n fygythiad i iechyd oedolion.

Mae arbenigwyr niwclear yn dal i gael trafferthion i sefydlogi’r adweithyddion yn yr orsaf niwclear yn dilyn y daeargryn a tsunami ar 11 Mawrth.

Y problemau’n lledu

Mae’r ymbelydredd wedi lledaenu i lysiau, llaeth crai, y cyflenwad dŵr a dŵr y môr yn yr ardal o amgylch yr orsaf.

Mae trigolion yng ngogledd-ddwyrain Japan wedi cael eu hargymell i beidio ag yfed dŵr tap oherwydd y lefelau ymbelydredd sy’n gallu achosi canser y thyroid.

Mae Gweinyddiaeth Bwyd a Chyffuriau’r Unol Daleithiau wedi cyhoeddi eu bod nhw am atal mewnforio unrhyw gynnyrch o ardal Fukushima.

Fe fydd bwyd o ardaloedd eraill o Japan, gan gynnwys bwyd môr, yn parhau i gael ei werthu ond yn cael ei sgrinio am ymbelydredd yn gyntaf.