Adfeilion wedi'r daeargryn - golygfa gyffredin yng ngogledd-ddwyrain Japan
Mae gwraig 80 oed a bachgen yn ei arddegau wedi cael eu hachub o adfeilion ty yng ngogledd-ddwyrain Japan – naw diwrnod ar ôl y daeargryn a’r tsunami enbyd.

Dywed heddlu lleol fod achubwyr wedi cael hyd i’r bachgen 16 oed ar do ei dy yn ninas Ishinomaki, yn galw am help.

Fe wnaeth wedyn arwain yr achubwyr i’r ty, lle cawson nhw hyd i’r wraig oedrannus. Roedd y ddau’n wan ond yn ymwybodol.

Cafodd y ddau eu hedfan mewn hofrennydd i ysbyty cyfagos.

Yn ôl adroddiadau, roedd y ddau wedi eu caethiwo yng nghegin y ty, lle’r oedd digon o fwyd i’w cadw nhw’n fyw.