Gorsaf Fukushima Dai-ichi ar ôl y difrod (AP Photo/DigitalGlobe)
Mae lefelau ymbelydredd uwch na’r hyn sy’n ddiogel wedi cael eu darganfod mewn llaeth a sbigoglys yng nghyffiniau atomfa Fukishima yn Japan.

Dyma’r tro cyntaf i lywodraeth y wlad gyfeirio at lygredd mewn bwyd ers yr argyfwng niwcliar yn sgil y daeargryn a’r tsunami wythnos i ddoe.

Cafwyd hyd i’r llaeth 20 milltir o’r atomfa, yn ôl Yukio Edano, prif lefarydd y llywodraeth.

Er bod y lefelau’n uwch na’r uchafswm cyfreithiol, dywedodd Edano nad oedd y bwydydd yn achosi risg mawr i iechyd.

“Fyddech chi ddim yn cael niwed ar unwaith wrth ei fwyta,” meddai wrth sôn am y bwyd ymbelydrol. “Ond ni fyddai’n beth da i rywun barhau i’w fwyta am beth amser.

“Rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau iechyd ein pobl,” ychwanegodd.

Chwistrellu dŵr

Yn y cyfamser, mae criwiau argyfwng wrthi’n pwmpio dŵr heddiw i oeri’r adweithyddion a’r pyllau storio tanwydd yn atomfa Dai-ichi yn Fukushima.

Dywedodd Edano fod y sefyllfa’n ddrwg, ond nad oedd yn mynd yn waeth.

“Mae’r sefyllfa yn yr atomfa’n dal i fod yn amhosib ei rhagweld. Ond rydyn ni o leiaf yn rhwystro pethau rhag dirywio,” meddai.

Mae peiriant tân gyda chanon dŵr pwysedd uchel wedi parcio y tu allan i Uned 3 yr atroma, ac mae disgwyl y bydd tua 1,400 tunnell o ddŵr yn cael ei bwmpio yno.

Ddoe, cafodd lefel y bygythiad ymbelydredd o’r atomfa ei godi o lefel pedwar i lefel pump gan asiantaeth ddiogelwch niwclear Japan.