Maes awyr Tripoli o'r gofod (NASA)
Mae Libya wedi atal pob awyren rhag hedfan uwchben y wlad mewn ymgais i wrthwynebu penderfyniad Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig i greu ardal dim-hedfan yno.
Fe ddywedodd y cyngor eu bod nhw am ddefnyddio pob mesur angenrheidiol i atal lluoedd Muammar Gaddafi rhag ymosod ar bobol Libya, gan gynnwys atal llu awyr y wlad rhag hedfan.
Tripoli’n gwrthod awyrennau
Fe ddaeth y cyhoeddiad am benderfyniad Libya trwy asiantaeth reoli traffig awyr Ewrop, Eurocontrol, ar ôl iddi dderbyn gwybodaeth gan Malta.
“Mae’r wybodaeth ddiweddaraf oddi wrth Malta yn dweud nad yw Tripoli ddim yn derbyn unrhyw draffig,” meddai Eurocontrol mewn datganiad.
Yn y cyfamser mae’r Unol Daleithiau, Prydain a Ffrainc yn trafod sut i atal lluoedd llywodraeth Libya rhag ymosod o’r awyr ar wrthryfelwyr.
Mae disgwyl i Brif Weinidog Prydain, David Cameron, wneud datganiad ar rôl Prydain wrth greu ardal dim-hedfan. Roedd yn cadeirio cyfarfod o’r Cabuinet heddiw.
Ymosodiadau’n ‘dechrau’n fuan’
Mae Llywodraeth Ffrainc wedi dweud y bydd ymosodiadau o’r awyr yn erbyn lluoedd Libya yn “dechrau’n fuan” – fe fyddai creu ardal dim-hedfan yn golygu bomio amddiffynfeydd Libya.
Roedd penderfyniad y Cenhedloedd Unedig hefyd yn caniatáu ymosodiadau o’r awyr a’r môr ac wedi cael cefnogaeth gwledydd Arabaidd eraill.