cym
Un o brotestiadau'r Gymdeithas
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyfiawnhau eu hymgyrch uniongyrchol i ‘achub s4C’, gan gynnwys gweithredu yn erbyn swyddfeydd y Ceidwadwyr yng Nghymru.
Roedd ASau Ceidwadol wedi cael digon o gyfle i wrthsefyll bwriad y Llywodraeth yn Llundain i roi’r sianel dan adain y BBC ac felly roedden nhw’n dargedau “teg”, meddai arweinydd yr ymgyrch wrth gylchgrawn Golwg.
Mae un o’r prif undebau darlledu hefyd wedi cefnogi’r Gymdeithas, er nad ydyn nhw eu hunain am fod yn rhan o’r gweithredu uniongyrchol.
Yn ôl David Donovan o undeb BECTU, roedd y Llywodraeth wedi “gwahodd” gweithredu o’r fath oherwydd bod gwagle yn y drafodaeth.
Roedd yntau’n siarad wrth i’r Gymdeithas arwain y gwaith o greu grŵp ambarél i geisio atal toriadau yng nghyllid S4C a cheisio rhwystro trafodaethau partneriaeth rhyngddi hi a’r BBC.
Y stori’n llawn yn rhifyn yr wythnos yma o Golwg