Manama, prifddinas Bahrain (Jayson De Leon CCA 2.0)
Mae milwyr a heddlu terfysg ym Mahrain wedi ymosod ar wersyll protestwyr, wedi gosod cyrffiw 12 awr ac wedi atal pobol rhag symud o fewn y deyrnas fechan.

Ac mae Llywodraeth Prydain wedi galw ar ddinasyddion gwledydd Prydain i adael y wlad, gan gyhoeddi eu bod yn llogi awyrennau i’w casglu.

Bellach, mae’r Swyddfa Dramor wedi codi lefel ei rhybuddion gan ddweud wrth bobol am beidio â theithio i Bahrain ac am i’r miloedd o wledydd Prydain sydd yno adael pan ddaw cyfle.

Mae hynny’n dilyn cynnydd yn yr ymladd rhwng protestwyr Shiiaidd a lluoedd y teulu brenhinol a’r Llywodraeth sydd yng ngafael y lleiafrif Sunni. Mae o leia’ bump o bobol wedi eu lladd.

Hofrenyddion yn saethu

Mae tystion wedi disgrifio hofrenyddion yn saethu at dai wrth chwilio am brotestwyr Shiiaidd.

Mae yna honiadau hefyd o ymosodiadau ar ddoctoriaid wrth iddyn nhw geisio trin cleifion ar ôl peth o’r ymladd.

Mae meddygon ym mhrif ysbyty’r wlad yn dweud fod yr ysbyty wedi’i feddiannu gan luoedd diogelwch sy’n atal meddygon rhag gadael na thrin cleifion ar y safle.

Yn ôl swyddogion ysbyty Salmaniya – roedd 107 o bobl wedi’u hanafu ar ôl trais ddoe.

Roedd naw o’r rheiny mewn cyflwr difrifol, meddai’r ysbyty. Roedden nhw eisoes wedi trin 322 o bobol yn dilyn trais echdoe.

Y cefndir

Ddoe, roedd milwyr wedi bod yn defnyddio nwy dagrau a cherbydau arfog i yrru protestwyr o’u gwersyll ar Sgwâr y Perlau yn y brifddinas.

Mae’r protestwyr Shiiaidd yn ceisio mwy o hawliau gwleidyddol gan yr arweinwyr Sunni.

Mae Bahrain yn un o brif gyfeillion yr Unol Daleithiau yn y Dwyrain Canol.