Silvio Berlusconi
Wrth i Brif Weinidog yr Eidal wynebu cyfres o gyhuddiadau’n ymwneud â chamymddwyn rhywiol, mae’n honni ei fod yn llawer rhy hen i fod wedi cyflawni’r troseddau.
Mae Silvio Berlusconi, 74 oed, yn wynebu achos llys yn Milan ar gyhuddiad o dalu am gyfathrach rywiol gyda merch dan oed o Foroco, ac yna defnyddio’i awdurdod i geisio cuddio’r digwyddiad.
Mae dogfennau a gyflwynwyd i’r llys yn enwi 33 menyw, gan gynnwys y ferch o Foroco, mewn cysylltiad â phartïon yn fila Berlusconi.
Dywedodd y Prif Weinidog wrth bapur newydd La Repubblica y byddai “33 merch mewn dau fis yn ormod, hyd yn oed i rywun 30 oed.”
Ond mae’r Prif Weinidog wedi addo cymryd rhan ym mhob gwrandawiad yn ystod ei achos llys, sy’n dechrau ar 6 Ebrill.