Cyrnol Gaddafi
Mae arweinydd Libya, Muammar Gaddafi, wedi ymosod yn ddidostur ar y gwrthryfelwyr yn ei erbyn heddiw, gan eu rhybuddio i “ildio neu redeg i ffwrdd”.

Gan ddefnyddio ymosodiadau o’r awyr ac o longau rhyfel a thanciau a magnelau, ceisiodd am y tro cyntaf adennill dinas yng nghadarnle’r gwrthryfelwyr yn nwyrain y wlad.

Fe fu gwrthryfelwyr yn rhuthro i flaen y gad wrth i fosgiau yn Ajdabiya ddarlledu apeliadau am help i amddiffyn y ddinas.

Ond roedd y gwrthryfelwyr yn dioddef o brinder arfau.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ar Ajdabiya yn y dwyrain ar ôl i luoedd Gaddafi adennill y dref olaf i’r gorllewin o Tripoli a oedd yn nwylo’r gwrthwynebwyr. Gyda’r fuddugoliaeth yn Zwara, tref lan-môr tua 30 milltir o’r ffin â Tunisia, mae Gaddafi wedi cryfhau ei afael yng ngorllewin y wlad.

Mae Ajdabiya yn fan allweddol yn nwyrain Libya, sydd wedi bod yn nwylo’r gwrthryfelwyr ers cychwyn y gwrthryfel union fis i heddiw. Os yw lluoedd Gaddafi’n gallu cipio’r ddinas, fe fydd y ffordd yn glir iddyn nhw ymosod ar Benghazi, ail ddinas y wlad a phrif gadarnle’r gwrthryfelwyr, 140 milltir i ffwrdd.