Japan ar ôl y gyflafan
Mae miliynau o bobl wedi treulio pedwerydd noson heb fawr o fwyd, dŵr na gwres yn Japan wrth i wlad gyfoethocaf Asia geisio dygymod â’i hargyfwng mwyaf ers yr Ail Ryfel Byd.

Parhau i gynyddu mae nifer swyddogol y meirw yn sgil y daeargryn a’r tsunami yr wythnos ddiwethaf. Mae’r heddlu wedi cadarnhau ei fod bellach dros 2,400 – ond mae amcangyfrifon fod ymhell dros 10,000 wedi eu lladd.

Wrth i’r argyfwng niwclear waethygu yn sgil y ffrwydradau yng ngorsaf Fukushima Dai-ichi, mae’r wlad yn dioddef prinder trydan cynyddol yn ogystal.

Mae 11 o orsafoedd niwclear yn y gogledd-ddwyrain, sy’n darparu llawer o’r pŵer ar gyfer ardal Tokyo, wedi cau ar ôl y daeargryn.

Mae’r llywodraeth wedi gofyn i bobl ddiffodd eu goleuadau cymaint ag sy’n bosibl, ac wedi gorchymyn toriadau rhannol mewn rhai dinasoedd.

Mae trenau Tokyo wedi bod yn llawnach nag arfer yn ystod yr oriau brig, gan fod y prif reilffyrdd yn rhedeg llai o drenau i arbed pŵer.

Mae costau atgyweirio difrod y daeargryn a tsunami yn sicr o fod yn ddegau o biliynau o ddoleri, a fydd yn debygol o ychwanegu at ddyled gyhoeddus enfawr.

Argyfwng ariannol

Mae’r argyfwng wedi taro’r marchnadoedd arian yn ddrwg, gyda mynegai Nikkei 225 wedi gostwng mwy na 10% yn ystod y dydd.

Mae cwmnïau cynhyrchu trydan wedi cael eu taro’n neilltuol o galed, gyda’r Tokyo Electric Power Co, sy’n gweithredu gorsaf niwclear Fukshima Dai-ichi, lle bu’r ffrwydradau, yn disgyn 24.7%, a Toshiba, sy’n gwneud darnau ar gyfer gorsafoedd niwclear, yn disgyn 19.5%.

Mae diwydiannau trwm hefyd, gan gynnwys gwneuthurwyr ceir, wedi cael eu taro’n ddrwg, gan eu bod mor ddibynnol ar drydan.