Gorsaf Fukushima Dai-ichi ar ôl y difrod (AP Photo/DigitalGlobe)
Mae ymbelydredd peryglus yn gollwng o orsaf niwcliar yn Japan ar ôl trydydd ffrwydrad yno dros nos.
Gwaethygu mae’r argyfwng niwclear yng ngorsaf Fukushima Dai-ichi a gafodd ei difrodi yn y daeargryn ddydd Gwener, ac mae lefelau’r ymbelydredd bellach yn peryglu iechyd y cyhoedd.
Mewn datganiad ar y teledu ar ôl y ffrwydrad diweddaraf, mae prif weinidog Japan, Naoto Kan, yn pwyso ar i bawb sy’n byw o fewn 19 milltir i’r ardal aros i mewn.
“Mae’r lefel yn ymddangos yn uchel iawn, ac mae risg uchel yn dal i fod o fwy o ymbelydredd yn dod allan,” meddai.
Ers dydd Sadwrn, mae tri ffrwydrad wedi digwydd yn adweithyddion yr orsaf, ac mae tân wedi cynnau yn y pedwerydd adweithydd, gan ollwng mwy o ymbelydredd.
“Rydym yn sôn bellach am lefelau a all niweidio iechyd pobl,” meddai Yukio Edano, prif ysgrifennydd y cabinet.
“Peidiwch â mynd allan. Arhoswch i mewn. Caewch ffenestri, a rhowch eich dillad i sychu y tu mewn i’r tŷ.”
Mae tua 800 o staff wedi cael eu gyrru adref o’r orsaf, tra bod 50 o weithwyr yn aros yno i geisio oeri’r adweithyddion â dŵr.