Mae deg o filwyr wedi cael eu lladd mewn ymosodiad gan hunan-fomiwr y tu allan i un o swyddfeydd gwasanaethau cudd byddin Irac yn nwyrain y wlad.

Cafodd o leiaf 29 o bobl eraill eu hanafu.

Roedd yr hunan-fomiwr wedi gyrru ei gar yn llawn ffrwydron trwy’r giât ddiogelwch a’i chwythu i fyny y tu allan i bencadlys y milwyr yn Kanan, 35 milltir i’r gogledd-ddwyrain o’r brifddinas, Baghdad.