Profi plentyn am ymbelydredd (Llun AP Photo/Wally Santana)
Mae ffrwydrad arall wedi digwydd mewn gorsaf niwclear yn Japan.

Dyma’r ail ffrwydrad hydrogen yng ngorsaf Fukushima Dai-ichi ers y daeargryn a’r tsunami enfawr ddydd Gwener.

Mae cwmwl anferth o fwg yn codi ohono ac 11 o bobl wedi cael eu hanafu.

Dywed yr awdurdodau fodd bynnag fod lefelau ymbelydredd o fewn y cyfyngiadau cyfreithiol, a bod y llestr mewnol sy’n dal y ffyn niwclear yn dal yn gyfan.

Digwyddodd y ffrwydrad ar ôl un arall tebyg ddydd Sadwrn lle cafodd pedwar o weithwyr eu hanafu.

Gydag adweithydd arall wedi colli ei allu i oeri, mae pryder y gall ffrwydrad arall eto ddigwydd yn sgil gor-boethi.

Mae dros 180,000 o bobl wedi cael eu hanfon o’r ardal dros y dyddiau diwethaf, ac mae ofnau y gall 160 fod wedi diodddef ymbelydredd.

Mae pedair gorsaf niwclear yng ngogledd-ddwyrain Japan wedi cael eu difrodi, ond yng ngorsaf Fukushima Dai-ichi y mae’r peryglon mwyaf.