Cnepyn o lo
Mae 16 o lowyr wedi marw a tri arall ar goll yn dilyn ffrwydrad nwy mewn pwll glo yn China.
Digwyddodd y ffrwydrad yn ninas Liupanshui rhanbarth Guizhou y wlad.
Llwyddodd 15 o weithwyr i ddianc. Mae ymchwiliad i beth achosodd y ffrwydrad yn cael ei gynnal ar hyn o bryd.
Mae achubwyr wedi dod o hyd i’r cyrff ac yn parhau i chwilio am y glowyr sydd ar goll.
Mae pyllau glo China ymysg y mwyaf peryglus yn y byd ac mae miloedd o lowyr yn marw yno bob blwyddyn.
Mae’r galw am lo wedi ysgogi nifer o gwmnïau i anwybyddu rheolau diogelwch.
Dros y blynyddoedd diwethaf mae nifer y meirw wedi disgyn wrth i’r llywodraeth orchymyn rheolau diogelwch gwell a chau pyllau glo bach anghyfreithlon.