Mae o leiaf 60 o bobol wedi marw yn dilyn y daeargryn mwyaf pwerus oddi ar arfordir Japan ers dechrau cadw cofnodion.

Tarodd y daeargryn 8.9 ar y raddfa Richter am 2.46pm, amser Japan, gan achosi tsunami enfawr sydd wedi sgubo dros arfordir dwyreiniol y wlad.

Mae adroddiadau bod y gwasanaethau brys wedi dod o hyd i rhwng 200-300 o gyrff ar draethau’r arfordir ger Sendai, y ddinas agosaf i ganolbwynt y daeargryn.

Mae delweddau ar deledu Japan yn dangos cychod, tai, ceir a pob math o falurion yn cael eu cario milltiroedd ar draws y tir gan fwrlwm mwdlyd.

Roedd llong oedd yn cario 100 o bobl ymysg y rheini gafodd eu taro gan y tsunami.

Tokyo

Cyrhaeddodd effeithiau’r daeargryn y brifddinas Tokyo, sydd eisoes wedi dioddef mwy na 20 o ôl-gryniadau.

Mae maes parcio Disneyland Tokyo wedi ei ddinistrio a sawl tân mawr wedi cynnau ym mhurfa olew Iichihara.

Bu’n rhaid i 2,000 o bobol ffoi o ardal gorsaf niwclear Fkushima Daiichi ar ôl argyfwng yno, meddai’r Asiantaeth Egni Pŵer Atomig.

Effeithiau rhyngwladol

Roedd modd teimlo’r daeargryn mor bell â Beijing, sydd 1,500 milltir i ffwrdd.

Mae gwledydd ar ben arall y Môr Tawel wedi cael gwybod y dylen nhw baratoi rhag ofn bod tsunami yn eu cyrraedd nhw.

Mae tonnau mawr bellach wedi taro Hawaii ond heb unrhyw ddifrod mawr hyd yma.

Mae Japan wedi galw ar yr Unol Daleithiau am gymorth dyngarol. Mae Prif Weinidog Llywodraeth San Steffan, David Cameron, hefyd wedi dweud bydd Prydain yn anfon cymorth i Japan.