Cristchurch yn dilyn y daeargryn yno
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi cadarnhau heddiw fod y tîm aeth i Christchurch, Seland Newydd i helpu ar ôl y daeargryn yno wedi dychwelyd yn ddiogel.

Roedd y tîm yn rhan o ymdrech Brydeinig ehangach i helpu cymunedau Christchurch ar ôl i ddaeargryn daro’r ddinas fis Chwefror.

Roedd yr wyth o achubwr o’r de wedi cyrraedd Seland Newydd am 10am ddydd Gwener, 25 Chwefror i helpu â’r ymdrech o chwilio ac i dynnu cyrff o’r rwbel.

Roedd 62 o achubwyr ar draws Brydain wedi mynd yno i helpu yn ogystal â swyddogion o’r Unol Daleithiau, Singapore a Japan, wrth i’r wlad geisio dod i delerau â un o’r trychinebau naturiol mwyaf yn ei hanes.

“Rydyn ni’n hynod falch bod ein Tîm Chwilio ac Achub Rhyngwladol wedi helpu cymunedau gafodd eu heffeithio gan y drasiedi hon yn Seland Newydd,” meddai llefarydd ar ran Gwasanaeth Tan ac Achub De Cymru.

“Rydyn ni hefyd yn falch iawn bod y tîm wedi dod yn ôl i dde Cymru yn ddiogel.”