Donald Trump (Llun: Wicipedia)
Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau wedi dweud ei fod yn destun erledigaeth, wrth i ffrae ailgynnau dros ei gysylltiadau honedig â Rwsia.
Daeth dogfen i ddwylo corff cudd-wybodaeth yr FBI y llynedd, yn honni bod Rwsia wedi bod yn cynorthwyo Donald Trump yn ystod ei ymgyrch arlywyddol.
Hyd yn hyn mae cyrff cudd-wybodaeth yr FBI, NSA a’r CIA wedi adolygu’r ddogfen ac yn gytûn bod Rwsia wedi ceisio tanseilio ymgyrch arlywyddol yr ymgeisydd Democrataidd, Hillary Clinton.
Mae’r Arlywydd wedi gwrthod honiadau’r ddogfen sawl gwaith, a dros y dyddiau diwethaf mae wedi awgrymu mai’r Democratiaid neu’r FBI wnaeth ei hariannu.
Bellach mae ffynonellau wedi cefnogi safiad Donald Trump gan honni mai ymgyrch Hillary Clinton a Phwyllgor Cenedlaethol y Democratiaid wnaeth dalu am y ddogfen.