Mae angen gosod “cyfyngiadau pellach” ar ddyfais a gafodd ei ddefnyddio gan y dyn fu’n gyfrifol am gyflafan yn Las Vegas, yn ôl y Gymdeithas Gynnau Cenedlaethol (NRA) yn America.
Wrth saethu 58 o bobol yn farw ac anafu cannoedd, defnyddiodd Stephen Paddock ddyfais arbennig ar gefn ei ynnau er mwyn ei alluogi i danio fwy o fwledi pob munud.
Roedd y gynnau a’r ddyfais yn hollol gyfreithiol, felly yn sgil yr ymosodiad mae’r NRA wedi galw am adolygiad i weld os ydy’r dyfeisiau yn cydymffurfio â’r gyfraith.
Mae aelodau blaenllaw o’r Blaid Weriniaethol gan gynnwys Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, a Llefarydd y Gyngres, Paul Ryan, hefyd wedi galw am adolygiad.
Mae ymateb yr NRA a’r Gweriniaethwyr yn dro pedol lwyr, o ystyried eu segurdod yn y gorffennol wrth ymateb i gyfres o ymosodiadau gyda drylliau ledled yr Unol Daleithiau.