Traerth Cefn Sidan lle mae o leia 50 o chwysigod (Llun parth cyhoeddus)
Mae pobol sy’n mynd i rai o draethau de-orllewin Cymru wedi cael eu rhybuddio i gadw draw rhag cannoedd o chwysigod môr – Portuguese Men o’ War – sydd wedi golchi i’r lan.

Mae hynny’n cynnwys o leia’ 50 ohonyn nhw tros tua milltir a hanner o draeth poblogaidd Cefn Sidan ger Pembre yn Sir Gaerfyrddin.

Mae swyddogion yn y parc gwledig yno wedi codi arwyddion yn rhybuddio pobol i fod yn ofalus.

Y cyngor yw i beidio â mynd yn droednoeth ar draethau lle mae’r creaduriaid. sy’n debyg i slefrod môr mawr, ac i beidio â gadael i gŵn redeg yn rhydd.

Mae’r chwysigod yn gallu pigo gan achosi anafiadau poenus.