Mae'r Arlywydd Donald Trump wedi galw am undod (Michael Vadon CCA4.0)
Mae’r dyn a saethodd 59 o bobl yn farw ac anafu 527 o bobl eraill yn Las Vegas, wedi mynd a 23 o ynnau i ystafell ei westy cyn yr ymosodiad ar y dorf mewn cyngerdd awyr agored.
Roedd Stephen Craig Paddock, 64, wedi tanio gynnau at y dorf yng ngŵyl canu gwlad Route 91 Harvest Festival o un o loriau uchaf Gwesty a Chasino Mandalay Bay yn y Las Vegas Strip.
Cyn i’r heddlu gyrraedd ei ystafell yn y gwesty, roedd wedi lladd ei hun.
Roedd Stephen Paddock yn gyfrifydd a oedd wedi ymddeol, ac yn byw yn Mesquite, Nevada.
Daeth yr heddlu o hyd i 19 o ddrylliau eraill yn ei gartref yn Mesquite ynghyd a ffrwydron a miloedd o fwledi.
Dyma’r achos gwaethaf o saethu yn hanes diweddar America ac mae’r heddlu’n credu bod Stephen Paddock yn gweithredu ar ei ben ei hun.
Mae ei frawd, Eric Paddock, wedi ei ddisgrifio fel gamblwr a oedd yn hoffi gwario symiau mawr o arian yn casinos enwog Las Vegas, ond nad oedd ganddo agenda gwleidyddol na chrefyddol.
Mae ymchwilwyr yn ceisio darganfod beth oedd y cymhelliad y tu ôl i’r ymosodiad.
Mae’r grŵp eithafol y Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi ceisio hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad gan ddweud bod yr ymosodwr yn “filwr” a oedd wedi troi at Islam rai misoedd yn ôl, ond nid oes unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r honiad.
Mae’r Arlywydd Donald Trump wedi galw am “undod” gan ddisgrifio’r ymosodiad fel “gweithred gwbl ddieflig”.