Ruben Chapela (Llun: Prifysgol Bangor)
Mae tiwtor iaith ym Mhrifysgol Bangor, sy’n wreiddiol o Gatalwnia, wedi dweud fod yn rhaid “parhau â’r broses heddychlon.”
Dros y Sul fe aeth Ruben Chapela yn ôl i’w wlad enedigol ac i ardal Girona yng Nghatalwnia i daro’i bleidlais yn y refferendwm annibyniaeth.
Dywedodd ei fod wedi profi “llawer o drafferthion efo’r meddalwedd pleidleisio” a hynny wedi i Lywodraeth Sbaen geisio atal y bleidlais.
“Roedd y pleidleiswyr yn bihafio mewn ffordd heddychlon a doedd dim trais ar ochr y pleidleiswyr,” meddai wrth golwg360 gan esbonio fod Heddlu Sbaen yn “ofnadwy o galed.”
“Gwnaethon nhw daro pobol o unrhyw oedran… roedd y sefyllfa yn eithaf gwael,” meddai gan esbonio y bydd yn rhan o raglen Y Byd ar Bedwar a fydd yn darlledu pennod arbennig am Gatalwnia nos yfory (Hydref 3) am 9.30yh.
‘Proses heddychlon’
Ag yntau wedi dychwelyd i’w waith ym Mangor heddiw, dywedodd Ruben Chapela ei bod hi’n bwysig i “barhau â’r broses heddychlon.”
“Mae dinasyddion Catalwnia wedi dangos sut i wneud proses heddychlon wrth gwffio o blaid ein hawliau,” meddai.
“Dan ni’n disgwyl y bydd yna oppostion gan Lywodraeth yn Sbaen wrth gwrs ond rhaid inni ddechrau siarad. Dan ni angen ailddechrau’r ddeialog, does dim ots beth fydd yn digwydd dan ni angen cadw perthynas bositif efo Llywodraeth Sbaen,” meddai.
Comisiwn Ewropeaidd
Mewn datganiad y prynhawn yma mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi ymateb i’r refferendwm gan ddweud – “o dan y Cyfansoddiad Sbaenaidd, doedd y bleidlais ddoe yng Nghatalwnia ddim yn gyfreithlon.”
Mae’n ychwanegu bod hwn yn “fater mewnol i Sbaen sy’n rhaid iddo gael ei ddelio yn unol â’r gorchymyn cyfansoddiadol yn Sbaen.”
“Os byddai refferendwm yn cael ei drefnu yn unol â’r Cyfansoddiad Sbaenaidd byddai’n golygu y byddai’r diriogaeth sy’n gadael yn mynd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.”
Mae’r datganiad yn ychwanegu eu bod yn “ymddiried yn arweinyddiaeth y Prif Weinidog Mariano Rajoy i reoli’r broses anodd hon mewn parch llawn i’r Cyfansoddiad Sbaenaidd ac i’r hawliau sylfaenol y dinasyddion sydd wedi’u hymgorffori ynddi.”