Mae un o drigolion Barcelona wedi tynnu sylw golwg360 at luniau o’r gwrthdaro yng nghanol y ddinas heddiw, gan ddweud mai “dyma ddemocratiaeth yn Sbaen”.

Mae’r lluniau’n dangos canlyniadau’r heddlu’n curo rhai o’r bobol sydd wedi mynd i orsafoedd i fwrw eu pleidlais. Fe ddechreuodd y gwrthdaro yn yr oriau mân, a’r lluniau sydd gennym yn dangos y golygfeydd am 6 o’r gloch y bore ’ma.

Cyn-fyfyrwraig o Brifysgol Abertawe yw Berta Gelabert Vilà, sydd bellach yn athrawes Saesneg yn Barcelona.

Dywedodd hi wrth golwg360: “Roedden ni’n methu pleidleisio. Ewch i wefan www.324.cat ac fe welwch chi luniau ofnadwy o’r heddlu’n ein curo ni.

“Mae’r lluniau’n dangos canlyniadau gwrthwynebu Sbaen yn yr ysgol lle dw i’n gweithio. Dyma ddemocratiaeth yn Sbaen.”

Cefndir

Mae gwrthdaro wedi bod rhwng pleidleiswyr a’r heddlu yn yr amryw orsafoedd pleidleisio sydd wedi llwyddo i agor eu drysau y bore ma.

Mae’r pleidleiswyr wedi bod yn meddiannu rhai o’r ysgolion mewn ymgais i’w cadw’n agored.

Mae llywodraeth Catalwnia wedi cyhoeddi y gall pobol bleidleisio mewn unrhyw orsaf oddi ar gofrestr ganolog, ac y gallan nhw argraffu papurau pleidleisio yn eu cartrefi.