Mae tri o bobol wedi’u lladd yn dilyn ymosodiad yn Jerwsalem, yn ôl yr heddlu a gwasanaethau meddygol.
Dywed llefarydd ar ran heddlu Israel fod yr ymosodiad wedi digwydd yn gynnar ddydd Mawrth tu allan i gymuned Had Adar, ac mae’n cael ei drin yn ymosodiad brawychol.
Ychwanegodd y gwasanaeth meddygol bod un person arall mewn cyflwr difrifol.
Nid oes gwybodaeth ar hyn o bryd am bwy wnaeth gynnal yr ymosodiad.