Aung San Suu Kyi (Llun: PA)
Mae Arweinydd Myanmar (Burma) wedi amddiffyn ymateb ei gwlad i argyfwng grŵp lleiafrifol y Rohingya, yn sgil beirniadaeth ryngwladol.

Mae dros 400,000 o bobol Rohingya wedi ffoi o’u pentrefi yng ngogledd Burma oherwydd gwrthdaro rhyngddyn nhw a lluoedd arfog y wlad.

Wrth annerch y wlad yn fyw ar y teledu, dywedodd Aung San Suu Kyi bod “dros hanner” o bentrefi’r Rohingya heb gael eu heffeithio gan y trais. Ond mae Amnest Rhyngwladol wedi ei chyhuddo o “gladdu ei phen yn y tywod” ynglyn a’r hyn sy’n digwydd yno.

Mae Llywodraeth Burma wedi beio Mwslimiaid Rohingya am y trais, tra bod aelodau’r grŵp ethnig yn mynnu mai milwyr a Bwdistiaid treisgar sydd yn gyfrifol.

Yn ôl ymgyrchwyr ar ran y grŵp lleiafrifol, mae nifer o bentrefi’r Rohingya yng ngogledd y wlad wedi cael eu llosgi neu bellach yn wag.