Mari Lovgreen (Llun: CCA 3.0)
Mae cynhadledd arbennig yn cael ei chynnal ym Mhortmeirion heddiw i “ysgogi a chefnogi” merched sy’n gweithio yn y byd amaeth yng Nghymru.
Fe fydd y fforwm, sydd wedi’i drefnu gan Cyswllt Ffermio, yn cael ei gadeirio gan y gyflwynwraig Mari Lovgreen sy’n wreiddiol o Gaernarfon ond bellach yn byw ar fferm yn Llanerfyl gyda’i gŵr â’u dau o blant, Betsan ac Iwan.
Mae’n cyfaddef mai “prin” yw ei gwybodaeth o’r byd ffermio ond mae’n gobeithio am “gydraddoldeb” i’w phlant o ran eu cyfleoedd nhw ym myd amaeth.
“Rŵan fy mod i’n fam i Betsan ac Iwan, dw i’n gobeithio bydd y cyfleoedd o’u blaenau nhw yn gydradd pan mae’n dod i ffermio,” meddai.
“Mae pethau wedi symud ymlaen gymaint heddiw o ran cydraddoldeb, a dw i’n edrych ymlaen at fod yn rhan o ddigwyddiad sy’n rhoi sylw haeddiannol i gyfraniad merched i fyd amaeth, ac efallai dysgu rhywbeth yn y broses.”
Datblygu busnesau teuluol
Yn rhan o’r digwyddiad fe fydd cyflwyniad gan Fflur Sheppard, Cyfarwyddwr Cyswllt gyda chwmni Beattie Communications, ac un sydd wedi’i magu ar fferm yn Sir Gaerfyrddin.
Fe fydd trafodaeth am sut i ddatblygu busnesau teuluol ynghyd â sut i ddiogelu busnesau rhag ymosodiadau seibr ar y we.
Mae’r cyfarfod yn cael ei gynnal ym Mhortmeirion heddiw, gydag ail ddigwyddiad yng Nghastell Aberteifi ddydd Iau (Medi 29).