Corwynt (llun parth cyhoeddus)
Mae Corwynt Maria wedi cryfhau a’i uwchraddio i’w lefel uchaf – categori pump – wrth iddo anelu at diriogaethau tramor Prydain, sydd eisoes wedi dioddef yn sgil Irma.
Mae ’na bryderon y gallai’r effeithiau fod yn “drychinebus”.
Mae Canolfan Corwyntoedd Cenedlaethol yr Unol Daleithiau (NHC) yn adrodd bod gwyntoedd o hyd at 160mya a bod y corwynt yn debygol o barhau’n “hynod o beryglus” erbyn iddo gyrraedd Ynysoedd y Wyryf.
Mae camau brys yn cael eu cymryd yn Ynysoedd y Wyryf i baratoi ar gyfer y corwynt ond dywedodd swyddog sy’n cydlynu’r gwaith bod yr ynysoedd eisoes wedi eu “gwanhau” oherwydd Corwynt Irma ac nad yw’r sefyllfa’n “edrych yn dda”.
Mae ’na bryder hefyd y gallai glaw trwm achosi rhagor o lifogydd.
Dywedodd Ysgrifennydd Datblygiad Rhyngwladol y Deyrnas Unedig Priti Patel, bod y Llywodraeth yn cymryd camau i baratoi cymunedau.
Mae’r Swyddfa Dramor yn rhybuddio yn erbyn unrhyw deithiau i Ynysoedd y Wyryf ac yn rhybuddio trigolion i gymryd lloches “ar unwaith.”
Mae disgwyl i Gorwynt Maria gyrraedd Ynysoedd y Wyryf nos Fawrth.