Myanmar - Meikhtila (Llun: Yoav David CCA 3.0)
Mae bron iawn i 400 o bobol wedi marw yn ystod ymladd treisgar yn Myanmar, meddai’r fyddin yn y wlad.

Ond mae’r lleiafrif sy’n brwydro yn eu herbyn yn honni fod y fyddin yn ei erlid, gan orfodi miloedd i ffoi dros y ffin i Bangladesh.

Fe ddechreuodd yr ymladd diweddaraf yn nhalaith orllewinol Rakhine ar Awstr 25 rhwng y lluoedd diogelwch a’r lleiafrif Mwslimaidd Rohingya.

Mae’r ddwy ochr wedi bod yn cyhuddo’i gilydd o drais gwaedlyd, wrth i filoedd o bobol Rohingya ffoi dros y ffin i Bangladesh.

O blith y 399 o bobol sydd wedi’u lladd, mae 270 yn “derfysgwyr”, meddai’r fyddin, tra mae’n dweud ar ei thudalen Facebook mai dim ond 29 oedd yn “bobol ddiniwed”.

Yn ol y cofnod ar Facebook eto, mae 90 o frwydrau wedi bod, a hynny’n cynnwys yr ymosodiad cyntaf gan y gwrthryfelwyr ar Awst 25. Dyna achosodd i’r fyddin orfod taro’n ol, meddai, gan lansio “cyrchoedd i glirio” yr ardal a gwaredu’r gwrthryfelwyr.

Ond mae llefarwyr ar ran pobol y Rohingya, lleiafrif Mwslimaidd yn y wlad Fwdaidd, yn mynnu fod y fyddin wedi ymosod ar eu pentrefi a’u llosgi; gan saethu pobol ddiniwed ac achosi i eraill ffoi.

Maen nhw wedi postio lluniau, fideos a manylion ar wefannau cymdeithasol, ac maen nhw’n dweud fod y rhain yn dystiolaeth o’r erlid sy’n digwydd.