Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau wedi dweud y byddai goblygiadau “annerbyniol” pe bai’r Unol Daleithiau yn tynnu milwyr allan o Afghanistan.
Daeth sylwadau Donald Trump wrth iddo gyhoeddi strategaeth newydd ar gyfer y wlad yn ystod araith nos Lun (Awst 21) yn Fort Meyer.
“O hyn ymlaen, mi fydd diffiniad clir i fuddugoliaeth,” meddai. “Ymosod ein gelynion, dinistrio Isis, chwalu Al Qaeda, atal Taliban rhag cipio pŵer yn Afghanistan.”
Ar hyn o bryd, mae 8,400 o filwyr yr Unol Daleithiau yn gwasanaethu yn Afghanistan ac mae’n bosib bydd y presenoldeb yma yn cynyddu yn sgil sylwadau’r Arlywydd.
Yn y gorffennol mae Donald Trump wedi galw am ddiwedd i’r rhyfel yn y wlad, a cyn cael ei ethol dywedodd bod arian a bywydau yn cael eu “gwastraffu” yno.
Yn ystod ei araith, mi wnaeth yr Arlywydd hefyd alw ar gynghreiriaid Nato i “gefnogi’r strategaeth newydd” a rhybuddiodd Pakistan i stopio cynnig “lloches” i grwpiau brawychol.