Mae o leiaf un wedi’i lladd ac un arall wedi’i anafu ar ôl i gerbyd yrru i mewn i ddau arhosfan bws yn ninas Marseille, Ffrainc.

Nid yw cymhelliad yr ymosodiadau wedi’u dateglu eto ond mae heddlu Ffrainc wedi cadarnhau fod ymchwiliad ar y gweill ac maen nhw’n galw ar bobol i gadw draw o’r ardal.

Mae’n debyg i ddynes gael ei lladd yn yr ail arhosfan bws, a dyn arall ei anafu yn yr arhosfan cyntaf a oedd mewn ardaloedd gwahanol o’r ddinas yn ne’r wlad.

Mae adroddiadau pellach fod gyrrwr y cerbyd wedi’i arestio, yn ôl cyfryngau Ffrainc.

Daw hyn ddyddiau’n unig ar ôl ymosodiadau Barcelona a thref glan môr Cambrils lle gafodd 14 o bobol eu lladd.