Donald Trump (Michael Vadon CCA 4.0)
Mae gwleidydd yn yr Unol Daleithiau wedi ymddiheuro’n gyhoeddus wedi iddi gyhoeddi ar Facebook ei bod yn dymuno i’r Arlywydd Donald Trump gael ei ladd.
Roedd postio’r neges yn “gamgymeriad”, meddai’r Seneddwraig Maria Chappelle-Nadal, aelod croenddu o’r blaid Ddemocrataidd a gyhoeddodd ddydd Iau diwethaf, “Dw i’n gobeithio y caiff Trump ei lofruddio!”
“Fe wnes gamgymeriad, a dw i’n cyfaddef hynny,” meddai Mari Chappelle-Nadal yn ei hymddiheuriad i Donald Trump a’i deulu. Mae hi hefyd wedi ymddiheuro i drigolion Missouri, yr ardal y mae hi’n ei chynrychioli, ynghyd â’i chydweithwyr yn senedd y dalaith.
“Dw i wedi dysgu fy ngwers. Fy Arglwydd, Iesu Grist, ydi fy marnwr a fy rheithgor.
“Mi fydda’ i’n parhau i frwydro tros y materion sy’n wirioneddl bwysig,” meddai wedyn. Roedd hi’n llais amlwg iawn yn ystod y protestiadau wedi i Michael Brown gael ei ladd gan yr heddlu yn Ferguson yn 2014.
“Mae Duw yn dewis pobol ar gyfer gwneud gwaith gwahanol, i anfon negeseuon gwahanol.”