Mia Chambers
Mae merch fach 5 oed o Ferthyr Tudful yn dechrau ar ei thaith heddiw (dydd Llun) i’r Unol Daleithiau lle bydd yn cael triniaeth arbennig i wrthsefyll cancr.

Yn gynnar y flwyddyn diwethaf, deallodd teulu Mia Chambers fod ganddi lwmp yn ei stumog ac fe gafodd driniaeth yn Ysbyty Plant Caerdydd.

Ond fe ddaeth hi i’r amlwg wedi hynny fod ganddi risg o ddatblygu neuroblastoma – math prin o gancr.

Mi fydd yn teithio i Michigan yr wythnos hon i gael triniaeth a threial clinigol. 

Daw hyn wedi i’r gymuned leol godi miloedd o bunnau i ariannu’r daith a’r driniaeth – a hynny drwy ‘ymgyrch enfys’ lle’r oedd pobol yr ardal yn chwifio rhubannau lliwgar ar eu ceir, tai a’u busnesau.