Yr Arlywydd Donald Trump (Llun: Wikipedia)
Mae llysgennad Rwsia yn yr Unol Daleithiau wedi wfftio honiadau ei fod e wedi ymyrryd yn etholiadau arlywyddol y wlad.

Mae Sergei Kislyak yn mynnu mai “gwneud ei waith” yn unig yr oedd e wrth gyfarfod â staff Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump.

Dywedodd ei fod e hefyd wedi cyfarfod ag aelodau staff Hillary Clinton, ond wnaeth e ddim datgelu eu henwau.

Dywedodd fod yr honiadau yn ei erbyn yn “gywilyddus”, gan ychwanegu nad yw’r honiadau bod ei sgyrsiau ffôn wedi cael eu recordio’n gudd yn “iachus”.

Michael Flynn

Ychwanegodd nad oedd e wedi gwneud unrhyw beth y tu hwnt i ofynion ei swydd fel diplomydd.

Mae’r cyswllt rhwng yr Unol Daleithiau a Rwsia wedi bod yn destun ymchwiliad gan yr FBI.

Mae Mosgo yn gwadu’r honiadau’n llwyr.

Yn ôl y llysgennad, doedd dim cyfrinachau wedi’u datgelu ganddo fe na Michael Flynn, cyn-ymgynghorydd diogelwch yr Arlywydd Donald Trump.

Ond cafodd Michael Flynn ei ddiswyddo am ‘gamarwain’ y Dirprwy Arlywydd Mike Pence am natur ei sgyrsiau â Rwsia.