Donald Trump yn ystod yr ymgyrch (Michael Vadon CCA4.0)
Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau wedi mynnu bod honiadau ei fod wedi cynllwynio gyda Rwsia yn ystod ymgyrch y Tŷ Gwyn y llynedd yn “hollol ffug.”
Daeth y sylw ychydig oriau wedi i’r Cwnsler Arbennig, Robert Mueller – sydd yn arwain ymchwiliad i’r honiadau – gyhoeddi ei fod wedi sefydlu Uwch-reithgor i holi ymhellach.
Mae hynny’n cael ei ystyried yn gam eithriadol a difrifol o dan yr amgylchiadau – fe fydd yn gallu galw tystion a mynnu gweld dogfennau.
‘Celwyddau’
Ond mae’r Arlywydd wedi ymateb yn ffyrnig, gan fynnu nad oedd dim cydweithredu wedi bod rhyngddo â’r Rwsiaid yn yr ymgyrch i ddod yn Arlywydd.
Wrth annerch torf yn West Virginia, gwnaeth Donald Trump gyhuddo’r blaid Ddemocrataidd o ledaenu “straeon celwyddog am Rwsia” gan nodi bod ganddyn nhw “obsesiwn â chelwyddau.”
“Mae’r stori am Rwsia yn hollol ffug,” meddai. “Mae’r stori yn nawddoglyd tuag at ein cenedl ac yn nawddoglyd o’n cyfansoddiad.”