Un math o heroin (Llun parth cyhoeddus)
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn hawlio’u bod yn llwyddo gydag ymgyrch fawr yn erbyn gwerthwyr cyffuriau.
Mae 22 o bobol eisoes wedi eu cyhuddo ac wyth arall wedi eu harestio yn ystod yr wythnosau diwetha’, medden nhw, trwy ymgyrch arbennig i atal y fasnach mewn cyffuriau caled.
Maen nhw wedi cynnal cyrchoedd yng ngogledd Cymru yn ogystal ag yn ardaloedd Aberystwyth a Llanelli ac mae eiddo ac arian wedi ei gipio hefyd.
‘Gormod o ddioddefaint’
Wrth gyhoeddi’r canlyniadau, fe ddywedodd arweinydd yr ymgyrch eu bod yn rhoi cyfle i ddefnyddwyr cyffuriau chwilio am help ond, os na fydden nhw’n derbyn y cynnig, y bydden nhw’n cael eu herlyn.
“R’yn ni wedi gweld gormod o fywydau yn bennu mewn trychineb a dioddefaint teuluoedd a ffrindiau,” meddai’r Ditectif Uwcharolygydd, Steve Matchett.
Mae’r 22 wedi eu cyhuddo o gynllwyn i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A.