Mae heddlu Awstralia wedi atal ymosodiad brawychol ar awyren yn Sydney, ac wedi arestio pedwar o ddynion mewn perthynas â chynllwyn.

Mae camau diogelwch ychwanegol mewn grym ym maes awyr y ddinas ers dydd Iau, yn ôl Prif Weinidog y wlad, Malcolm Turnbull.

Mae’r mesurau hynny bellach mewn grym ym mhob maes awyr yn y wlad.

Dydy’r awdurdodau ddim wedi cyhoeddi llawer o fanylion am y cynllwyn hyd yn hyn.

Ond mae rhybudd i deithwyr y bydd cryn oedi mewn meysydd awyr dros y dyddiau nesaf wrth i’r camau diogelwch newydd ddod i rym.

Lefel bygythiad

Hwn yw’r trydydd cynllwyn ar ddeg i gael ei ddarganfod ers i lefel bygythiad Awstralia gael ei chynyddu ers 2014, ond mae pump o ymosodiadau wedi cael eu cyflawni.

Fe allai’r ymchwiliad i’r cynllwyn diweddaraf bara rai diwrnodau, ond mae lle i gredu mai ffrwydro dyfais fyddai’n cael mynd ar yr awyren gyda theithwyr oedd y bwriad, neu ei ffrwydro wrth i fagiau gael eu harchwilio.

Ar ôl i’r heddlu chwilio sawl eiddo yn Sydney, cafodd dyfais amheus ei darganfod, ac mae lle i gredu bod dynes ymhlith nifer o bobol a gafodd eu harestio.

Dywed yr awdurdodau eu bod nhw’n credu mai Islamwyr oedd yn gyfrifol am y cynllwyn.