Mae Arlywydd Iran wedi dweud y bydd ei wlad yn gwrthwynebu unrhyw ymgais gan yr Unol Daleithiau i orfodi sancsiynau newydd arnyn nhw.
Daw sylwadau Hassan Rouhani ddiwrnod ar ôl i’r Unol Daleithiau gyhoeddi sancsiynau newydd ar Iran fydd yn targedu 18 grŵp ac unigolyn o’r wlad.
Ymysg y grwpiau ac unigolion fydd yn cael eu heffeithio bydd cwmni Iranaidd sydd wedi’i gyhuddo o gefnogi prosiect drôn y wlad, a chwmni yn Nhwrci sydd yn darparu offer llyngesol i Iran.
“Byddwn yn gwrthwynebu’r Unol Daleithiau,” meddai Hassan Rouhani mewn araith yn ystod cyfarfod cabinet. “Bydd gan genedl fawreddog Iran ymateb priodol.”
Dêl niwclear
Mae gweinyddiaeth yr Arlywydd, Donald Trump, yn derbyn fod Iran wedi cydymffurfio â gofynion dêl niwclear 2015 ond wedi rhybuddio y bydd yn cosbi’r wlad am eu rhaglen taflegryn balistig.
Yn ystod y cyfarfod Cabinet, dywedodd Hassan Rouhani ei fod yn amau fod yr Unol Daleithiau yn ceisio annog Iran i beidio â chydymffurfio â’r ddêl niwclear.
“Ni fydd y cynllwyn yma yn gweithio,” meddai. “Byddwn bob tro yn cadw at ein hymrwymiadau rhyngwladol.”