Mae dynes o Awstralia a alwodd yr heddlu er mwyn riportio ymosodiad, wedi cael ei saethu’n farw gan blismon yn America, wedi i bartner hwnnw gael ei ddychryn gan swn.

Mae prif weinidog Awstralia, Malcolm Turnbull, wedi disgrifio saethu Justine Damond, 40, nos Sadwrn diwethaf fel digwyddiad “dychrynllyd”.

Mae ymchwilwyr ym Minnesota yn dweud i Justine Damond fynd at ffenestr car yr heddlu yn syth wedi i un o’r plismyn gael ei ddychryn gan swn y tu allan i’r cerbyd. Fe daniodd yr heddwas oedd yn eistedd yn sedd y teithiwr, ei wn, gan saethu’r wraig.

Mae’r heddwas, Mohammed Noor, wedi gwrthod rhoi cyfweliad i’r ymchwiliad. Mae o fewn ei hawliau i wneud hynny.